SL(5)114 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau) at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau) at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) 2017 (“Rheoliadau 2017”) yn darparu ar gyfer gwneud benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar 1 Awst 2017 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2017 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru, mewn rhai amgylchiadau, i farnu bod person sydd wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan Reoliadau 2017 neu fenthyciad (ac eithrio o dan Reoliadau 2017) mewn perthynas â chwrs gradd feistr ôl-raddedig gan awdurdod llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau 2017.
Y weithdrefn
Negyddol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Goblygiadau sy'n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd
I wneud cais am fenthyciad gradd meistr ôl-raddedig, rhaid i fyfyrwyr fod yn fyfyrwyr cymwys. Mae Rheoliadau 2017 yn rhestru pob categori o fyfyrwyr cymwys; mae un categori yn cynnwys "dinasyddion yr UE".
Nid yw'n glir pa gymorth ariannol a fydd ar gael i fyfyrwyr sy'n wladolion yr UE ar ôl i'r DU adael yr UE.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
4 Gorffennaf 2017